A 21-year-old man from Swansea was filmed riding his motorcycle recklessly, then almost drove into an officer before getting stopped by a stinger.
On Tuesday August 20, Lewis Bagley was riding his Honda motorbike in the Llansamlet area of Swansea and didn’t release he was behind a roads policing officer.
Bagley overtook the officer and sped off. After the officer continued to follow Bagley, he started to drive erratically, riding over a pavement across a small patch of grass onto the main road.
The officer then sighted the motorbike on Valley Way with Bagley continuing to fail to stop resulting in a pursuit.
He continued to drive erratically, going the wrong way around a roundabout and speeding before trying to hide under a bridge.
Early in the pursuit the police helicopter (NPAS) was called in to help follow Bagley. Whilst hiding under the bridge Bagley noticed the helicopter made off on his bike along a public footpath by Millstream Way.
A stinger was deployed to try and stop Bagley, as he rode towards the stinger and noticed a police officer standing next to it and drove towards him.
The officer used his baton to strike Bagley which made him go over the stinger and moments later he was stopped and arrested.
More: https://www.south-wales.police.uk/news/south-wales/news/2024/october/swansea-man-jailed-for-dangerous-driving/
—
Cafodd dyn 21 oed o Abertawe ei ffilmio’n gyrru ei feic modur yn fyrbwyll, yna bron â gyrru i mewn i swyddog cyn iddo gael ei stopio gan stribyn pigog.
Ddydd Mawrth 20 Awst, roedd Lewis Bagley yn gyrru ei feic modur Honda yn ardal Llansamlet, Abertawe a methodd sylwi ei fod y tu ôl i swyddog plismona ffyrdd.
Gwnaeth Bagley oddiweddyd y swyddog ac yna gyrrodd i ffwrdd ar gyflymder. Ar ôl i’r swyddog barhau i ddilyn Bagley, dechreuodd yrru’n eratig, gan yrru dros balmant a chroesi darn bach o laswellt i’r brif ffordd.
Gwelodd y swyddog y beic modur ar Valley Way gyda Bagley yn parhau i wrthod stopio, a arweiniodd at ymlid.
Parhaodd i yrru’n eratig, gan fynd i’r cyfeiriad anghywir ar gylchfan a goryrru cyn ceisio cuddio o dan bont.
Yn gynnar yn yr ymlid, galwyd am hofrennydd yr heddlu er mwyn helpu i ddilyn Bagley. Pan oedd yn cuddio o dan y bont, sylwodd Bagley ar yr hofrennydd, a gyrrodd i ffwrdd ar ei feic ar hyd troedffordd gyhoeddus ger Millstream Way.
Defnyddiwyd stribyn pigog i geisio stopio Bagley, ac wrth iddo yrru tuag at y stribyn, sylwodd ar swyddog yn sefyll gerllaw a gyrrodd tuag ato.
Defnyddiodd y swyddog ei faton i daro Bagley a wnaeth iddo yrru dros y stribyn pigog, yna funudau yn ddiweddarach cafodd ei stopio a’i arestio.
Mwy: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/news/south-wales/newyddion/2024/hydref/swansea-man-jailed-for-dangerous-driving/